Jump to content
 
Honno Women's Press Logo - 30 years! ?lang=en

menywod gwych, ysgrifennu gwych, llyfrau gwych

|hafan|amdanon ni|catalog|newyddion|digwyddiadur|gwybodaeth i awduron|i'r wasg|masnach|cysylltwch ni

Clawr/Cover - Telyn Egryn

Catalog




tel|Ffn 01970 623150

Telyn Egryn

Elen Egryn (Elin Evans)  Llyfrau i gyd gan Elen Egryn (Elin Evans)

Golygydd: Ceridwen Lloyd-Morgan, Kathryn Hughes

£5.95     PRYNU'R LLYFR HWN

Telyn Egryn (1850) yw'r gyfrol gyntaf a gyhoeddwyd yng nghyfres Clasuron Honno. Mae barddoniaeth Elen Egryn, sef Elin neu Elinor Evans (g. 1807) o Lanegryn, Merionnydd, yn gyfrol bwysig yn hanes barddoniaeth gan ferched yng Nghymru am mai hi yw un o'r cyfrolau printiedig cyntaf gan ferch yn y Gymraeg.

Yn hyn o beth, adlewyrcha'r hyder newydd a gawsai merched wrth weld eu gwaith yn ymddangos mewn print mewn cylchgronau megis Y Gymraes a'r Cronicl. Mae ystod thematig ei cherddi yn eang: crefydd, galar, cyfeillgarwch, alltudiaeth ac iselder. Ochr yn ochr â'r Gymraes, cylchgrawn i ferched a lawnsiwyd gan Ieuan Gwynedd, mae Telyn Egryn yn rhan o ymdrech hynod i wrthweithio niwed Brad y Llyfrau Gleision trwy hybu delwedd y Gymraes ddelfrydol: merch dduwiol, barchus a moesol. Fel atodiad i'r gyfrol hon, cynhwysir cerddi gan feirdd benywaidd a gydoesai ag Elen.

ISBN: 9781870206303

Iaith: Cymraeg

Adran: Barddoniaeth  Clasuron Honno  Cymraeg  Clasuron  

Cyhoeddwyd yn gyntaf gan Honno yn : 1998



Mae'ch basged yn wag
dangos basged
Cynnwys y safle hawlfraint © Honno 2006-2010  |  Dyluniwyd y wefan gan mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.