Catalog
A ddarllensoch chi...?Strange Blood Lindsay Ashford £6.99Mwy o wybodaeth PRYNU'R LLYFR HWN
|
Gallwch fod yn Gyfaill i Honno mewn sawl ffordd:
• Ymunwch â rhestr e-bost Clwb Honno ac fe gewch rifynnau chwarterol 'Newyddion Honno' sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch digwyddiadau, cynigion arbennig, galwadau am ddeunydd a llawer iawn mwy. Ymunwch ...
• Cefnogwch ddigwyddiadau Honno trwy eu mynychu eich hunan a thrwy ddod â ffrindiau gyda chi hefyd.
• Taenwch y neges am Honno ymhlith eich ffrindiau a phrynwch eich hoff lyfrau gan y wasg fel anrhegion penblwydd a Nadolig.
• Gofynnwch i'ch siopau llyfrau lleol stocio eich hoff deitlau gan Honno a dywedwch wrthynt am y wasg a'i llyfrau.
• Gwirfoddolwch, yn ôl eich diddordebau, amser a sgiliau. Mae gwirfoddolwyr yn ein helpu mewn sawl ffordd. Er enghraifft, gallwch ein helpu trwy dorchi llewys mewn digwyddiadau yn eich ardal; trwy ein helpu â gwaith gweinyddol; trwy ymuno â Phwyllgor Honno. Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod y posibiliadau.
• Prynwch gyfranddaliadau. £5 yr un yw pris cyfranddaliadau ag atebolrwydd cyfyngedig: ni fyddwn yn gofyn am fwy o arian na'ch buddsoddiad gwreiddiol, ac er na ellir eu trosgwlyddo i neb arall gellid eu had-dalu. Mae cyfranddalwyr hefyd yn derbyn gostyngiad o 25% ar deitlau Honno wrth brynu llyfrau yn uniongyrchol o swyddfa Honno. Prynwch gyfranddaliadau
|
 |