Jump to content
 
Honno Women's Press Logo ?lang=en

menywod gwych, ysgrifennu gwych, llyfrau gwych

|hafan|amdanon ni|catalog|newyddion|digwyddiadur|gwybodaeth i awduron|i'r wasg|masnach|cysylltwch â ni

Catalog



A ddarllensoch chi...?

Clawr | Cover

Strange Days Indeed
Anthology

£7.99

Mwy o wybodaeth


PRYNU'R LLYFR HWN


tel|Ffôn 01970 623150

Dolenni Defnyddiol

Mudiadau eraill yng Nghymru sy'n ymwneud â'r Celfyddydau
Gweisg Menywod eraill yn y DU ac Iwerddon
Gweisg Cymreig eraill
Cylchgronau Ysgrifennu
Creative Writing Courses
Rhwydweithiau a Mudiadau Ysgrifennu Creadigol
Undebau Llafur


Mudiadau eraill yng Nghymru sy'n ymwneud â'r Celfyddydau

• Mae'r Academi yn cynrychioli awduron Cymreig (beirdd, nofelwyr, awduron ffuglen, storïwyr, dramodwyr a beirniaid) yn ogystal â chynrychioli ysgrifennu creadigol Cymraeg a Chymreig yng Nghymru a'r tu hwnt. Mae gan yr Academi barnertiaeth â Thŷ Newydd, y ganolfan breswyl i awduron, a chanolfan Dylan Thomas. Ceir llawer o wybodaeth fanwl i awduron ar wefan yr Academi, gan gynnwys manylion ynghylch digwyddiadau, ysgoloriaethau a chystadlaethau ysgrifennu: www.academi.org; www.tynewydd.org; Dylan Thomas Centre
• Corff cenedlaethol yw Cyngor Llyfrau Cymru ac fe'i noddir gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae'r Cyngor Llyfrau yn ganolbwynt i'r diwydiant argraffu yng Nghymru ac hefyd yn darparu gwasanaethau arbenigol ym maes golygu, cynllunio, marchnata a dosbarthu, gyda'r bwriad o wella safonau cynhyrchu ac argraffu yn y Gymraeg a'r Saesneg: www.cllc.org.uk
• Mae Llenyddiaeth Cymru Dramor yn hwyluso'r dasg o gyfieithu llenyddiaeth Cymru. Cynigia rantiau cyfieithu i gyhoeddwyr ac mae'r tîm yn mynychu ffeiriau llyfrau rhyngwladol, ac yn gweithio gyda chyfieithwyr, cyhoeddwyr a gwyliau tramor er mwyn hybu llên a llenorion Cymru ar lwyfan rhyngwladol: www.welshlitabroad.org
• Mae Cyngor y Celfyddydau Cymru yn gyfrifol am noddi a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru (ac eithrio llenyddiaeth – gweler yr Academi, uchod). Ceir ambell gyhoeddwr ar y bas-data ar-lein: www.artswales.org.uk



Gweisg Menywod eraill yn y DU ac Iwerddon

• Sefydlwyd Virago Press ym 1973 a hon yw'r argraffnod mwyaf i fenywod yn y byd sy'n llwyddo i gynhyrchu llyfrau safonol a gwreiddiol: www.virago.co.uk
• Sefydlwyd The Women's Press ym 1978 ac y mae'n canolbwyntio ar gyhoeddi ffuglen a llenyddiaeth ffeministaidd dreiddgar gan fenywod o bedwar ban byd: www.the-womens-press.com



Gweisg Cymreig Eraill

• Sefydlwyd Accent Press yn 2003 ac fe'i lleolir yn Sir Benfro: www.accentpress.co.uk
Gomer yw cyhoeddwr annibynnol mwyaf Cymru. Cyhoeddir 120 o deitlau Cymraeg a Saesneg gan y wasg bob blwyddyn: www.gomer.co.uk
• Cyhoeddwr llenyddol annibynnol sy'n cyhoeddi ffuglen, barddoniaeth a drama yw Parthian: www.parthianbooks.co.uk
• Cyhoeddwr llenyddol annibynnol yw Seren, sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth Saesneg ei hiaith, boed hynny'n farddoniaeth, ffuglen, cofiant, celf, gwleidyddiaeth, beirniadaeth, drama a diddordebau cyffredinol: www.seren-books.com
• Prifysgol Cymru sydd biau Gwasg Prifysgol Cymru. Mae'r wasg yn cyhoeddi teitlau mewn pedwar prif faes: hanes, athroniaeth wleidyddol ac astudiaethau crefyddol, astudiaethau Ewropeaidd, Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd: www.uwp.co.uk
• Cyhoeddwr annibynnol yng nghanolbarth Cymru yw Y Lolfa. Mae'n cyhoeddi ystod eang o deitlau gan mwyaf yn y Gymraeg: www.ylolfa.com
Rhestrir cyhoeddwyr yn Ne Cymru yn y South Wales Index.



Cylchgronau Ysgrifennu

• Cylchgrawn llenyddol a chelfyddydol cyfunrhywiol yw Chroma ac mae'n hybu barddoniaeth, rhyddiaith a gwaith celf sy'n finiog, yn delynegol ac yn heriol gan awduron ac artistiaid hoyw, lesbaidd, deurywiol a thrawsrywiol: www.chromajournal.co.uk
• Cylchgrawn ysgrifennu menywod yw Mslexia sy'n cynnig gwybodaeth, arweiniad ac ysbrydoliaeth i awduron cyhoeddedig ac anghyhoeddedig. Un o amcanion y cylchgrawn yw ceisio gwella safon a statws llên menywod: www.mslexia.co.uk
• Cylchgrawn rhyngwladol a leolir yn UDA yw Quality Women's Fiction. Fe'i cyhoeddir ddwywaith y flwyddyn a cheir ynddo straeon gan fenywod, am fenywod: www.allwriters.org/qwf.asp
Scarlet: cylchgrawn erotig i fenywod yw hwn sy'n derbyn straeon ffuglennol ac anffuglennol o natur erotig:www.scarletmagazine.co.uk

A470 yw cylchgrawn dwyieithog yr Academi. Fe'i cyhoeddir bob dau fis er mwyn eich cadw mewn cysylltiad â llenyddiaeth yng Nghymru:www.academi.org/a470_e
e-bych: cylchgrawn llenyddol Cymraeg/Saesneg ar gyfer straeon byrion, nofelau a barddoniaeth yw hwn. Y mae hefyd yn cynnwys cystadlaethau ysgrifennu, cartwnau &c, a chyfle i awduron a beirniaid leisio'u barn ar Gymru a'i llenyddiaeth: www.e-bych.com
• Mae'r New Welsh Review yn canolbwyntio ar ysgrifennu Saesneg gan Gymry ac yn taflu golwg heriol ac afieithus dros y sîn llenyddol yng Nghymru. Mae pob rhifyn yn cynnwys beirniadaeth lenyddol, ffuglen, barddoniaeth, adolygiadau, theatr, perfformio, ffilm a chelf: www.newwelshreview.com
• Cyhoeddir Planet bob dau fis. Mae'r cylchgrawn yn trafod celf, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt, a chynhwysir nifer o gerddi ac un stori fer ym mhob rhifyn: www.planetmagazine.org.uk
• Cyhoeddir Poetry Wales bob chwarter gan Seren er mwyn rhoi llwyfan i'r farddoniaeth newydd orau ledled y byd ac, wrth gwrs, yng Nghymru: www.seren-books.com/poetry-wales

• Sefydlwyd y cylchgrawn Stinging Fly Magazine ym 1997. Cyhoeddir tri rhifyn y flwyddyn sy'n ceisio darganfod a hybu ysgrifennu Gwyddelig a rhyngwladol newydd o'r safon uchaf. Mae'r cylchgrawn yn rhoi sylw arbennig i awduron newydd ac yn hybu ffurf y stori fer: www.stingingfly.org



Cyrsiau Ysgrifennu Creadigol

• Mae'r Arvon Foundation yn cynnig cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl safonol gan awduron adnabyddus: www.arvonfoundation.org
Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru ac fe'i lleolir yng Nghricieth. Cynigir cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl safonol i awduron o bob math, yn ddechreuwyr ac yn arbenigwyr fel ei gilydd: www.tynewydd.org



Rhwydweithiau a Mudiadau Ysgrifennu Creadigol

Creative Women's Network: gwefan yw hon i fenywod creadigol mewn busnes. Mae'n caniatáu hysbysebu a rhwydweithio yn rhad ac am ddim, ac yn cynnwys tudalennau barddonol, erthyglau, a lle i osod eich proffil eich hun: www.creativewomensnetwork.co.uk
• Sefydlwyd Literature Training yn 2001. Dyma ffynhonnell ar-lein sy'n cynnig gwybodaeth ynghylch hyfforddi, digwyddiadau a swyddi awduron. Adnewyddir yr wybodaeth yn ddyddiol: www.literaturetraining.com
The Society of Women Writers and Journalists: rhaid ymaelodi â'r mudiad hwn sy'n hybu rhagoriaeth lenyddol, yn cynnal safonau proffesiynol ac yn hwyluso cyswllt cymdeithasol â chyd-awduron ynghyd ag eraill yn y maes megis golygyddion, cyhoeddwyr, darlledwyr ac asiantau: www.swwj.co.uk
• Mae Women in Publishing yn hybu statws menywod sy'n gweithio yn y byd cyhoeddi a busnesau galwedigaethol tebyg trwy eu cynorthwyo i ddatblygu gyrfa: www.wipub.org.uk
• Grŵp rhwydweithio i awduron benywaidd proffesiynol yw Women Writer's Network. Cynhelir cyfarfodydd misol yn Llundain: www.womenwriters.org.uk
• Bwriad WordzWorkWales yw ysbrydoli a chefnogi awduron yng Nghymru, a hynny yn greadigol, yn broffesiynol, yn academaidd, ac o ran datblygiad personol a datblygu busnes: www.wordzworkwales.biz
WriteWords: gwefan i awduron yw hon. Cynigia gefnogaeth, cyngor, cyfweliadau ac erthyglau gan enwogion y byd llenydol, yn ogystal â'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch swyddi, cyfleoedd, cystadlaethau a newyddion: www.writewords.org.uk



Undebau Llafur

The Writer's Guild of Great Britain: undeb llafur yw hwn sy'n cynrychioli awduron sy'n cyfrannu at y teledu, radio, theatr, llyfrau, barddoniaeth, ffilm a gemau fideo. Hwn yw'r corff cydnabyddedig ar gyfer trafod termau isaf posibl a chytundebau gwaith i awduron: www.writersguild.org.uk



Mae'ch basged yn wag
dangos basged
Cynnwys y safle hawlfraint © Honno 2006-2010  |  Dyluniwyd y wefan gan mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.