Jump to content
 
Honno Women's Press Logo - 30 years! ?lang=en

menywod gwych, ysgrifennu gwych, llyfrau gwych

|hafan|amdanon ni|catalog|newyddion|digwyddiadur|gwybodaeth i awduron|i'r wasg|masnach|cysylltwch ni
||Oriel|

Catalog



A ddarllensoch chi...?

Clawr | Cover

The Small Mine
Menna Gallie

£8.99

Mwy o wybodaeth


PRYNU'R LLYFR HWN


tel|Ffn 01970 623150

Newyddion



Lansiad Llon a Lleddf (21/08/2012)

Roedd lansiad Llon a Lleddf, straeon Sara Maria Saunders, ym Mhabell Cyngor Llyfrau Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar Awst 9ed yn achlysur hapus a llwyddiannus.

Siaradodd Rosanne Reeves, a ysgrifennodd y cyflwyniad ac sy'n gyfrifol am y syniad o gyhoeddi'r gyfrol ddifyr yma, am fywyd a gwaith yr awdur, a adnabuwyd fel S.M.S. Darllenodd Eurwen Bootha Pat Griffiths ddarnau o'r gwaith.

Ymhlith y gynulleidfa niferus yr oedd yr Archdderwydd nesaf, Christine James, a fydd y ddynes gyntaf i ddal y swydd. Wedi'r cyflwyniad, symudodd pawb allan i'r heulwen i fwynhau tamaid o'r gacen arbennig (diolch Caren's Cakes) a gwydriad o win.

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Llyfrau Cymru am eu croeso.
Mwy am y stori hon


Archif newyddion: Newyddion diweddaraf 2014 2013 2012 2007 2006

Mae'ch basged yn wag
dangos basged
Cynnwys y safle hawlfraint © Honno 2006-2010  |  Dyluniwyd y wefan gan mach2media a Technoleg Taliesin Cyf.