Gwir Gofnod O Gyfnod
Golygwyd gan Catrin Edwards a Kate Sullivan (gydag ysgrif gan
Catrin Stevens, Archif Menywod Cymru)
Diogelu Papurau a Lleisiau Menywod yng Ngwleidyddiaeth Cymru 1999-2021
Yn 2003, arweiniodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y byd gan gyflawni cydraddoldeb a chydbwysedd rhwng y rhywiau o ran cynrychiolaeth yn ei sefydliad democrataidd Cenedlaethol. Roedd hwnnw'n gyflawniad anhygoel, yn enwedig o ystyried mai dim ond pedair Aelod Seneddol Benywaidd oedd wedi cynrychioli Cymru yn Senedd y Deyrnas Unedig rhwng 1918 a 1997. Gan fanteisio ar gofnodion prosiect Archif Menywod Cymru o'r un enw mae ‘Gwir Gofnod o Gyfnod’ yn casglu at ei gilydd atgofion y rhai sydd wedi cynrychioli pobl Cymru yn y llywodraeth ddatganoledig. Mae'n darparu cyflwyniad cyfareddol a diddorol i rôl menywod yn y byd gwleidyddol o lawr gwlad hyd at lefel y llywodraeth – y cyfleoedd, yr heriau (o gael eu clywed i ofal plant), y llwyddiannau a'r methiannau.
Gall menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru fod yn falch iawn o'r record hwn, hebddynt byddai natur llywodraeth Cymru yn wahanol iawn.
Publication Date
ISBN
13 June 2024
9781916821033