top of page
Hi-Hon

Hi-Hon

Golygwyd gan Catrin Beard ac Esyllt Lewis

Casgliad o straeon gan fenywod am eu profiadau o fywyd yn y Gymru gyfoes

“Merch, chwaer, gwraig, mam,” Rebecca Thomas

Casgliad yw hwn o straeon/ysgrifau gan 10 awdur sy’n uniaethu fel menywod ac sy'n byw yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn sôn am eu profiadau. Mae'r cyfraniadau yn amrywio o ran genre, arddull ysgrifennu, naws, hyd, profiad a chefndir yr awdur: yr unig gyfarwyddyd a roddwyd i’r awduron oedd iddynt ysgrifennu am y profiad o fod yn fenyw yn yr unfed ganrif ar hugain. Ceir cyflwyniad byr gan y golygyddion, Catrin Beard ac Esyllt Lewis, ar ddechrau'r gyfrol.

Mae'r golygyddion wedi casglu ynghyd gynrychiolaeth dda o awduron sydd eisoes yn adnabyddus a phrofiadol, ac awduron mwy 'newydd' ac felly wedi llwyddo i gyflawni un o brif amcanion y gyfrol, ac yn wir un o brif amcanion Gwasg Honno, sef meithrin a rhoi llwyfan i awduron newydd.

“Ma'n bril y ffordd ti'm yn malio am sut ti'n edrach a jest yn byta be tisho!” Manon Steffan Ros

Publication Date

ISBN

27 June 2024

9781912905942

bottom of page